Map OS Cymraeg

Map OS Cymraeg

Ers ychydig nawr, pan dwi’n cael rhyw bum munud sbâr, dwi wedi bod yn cyfieithu data map Miniscale yr Ordnance Survey i Gymraeg (wel, y darnau yng Nghymru o leiaf)

Mae’r data MiniScale i gael am ddim dan drwydded data agored OS (linc), Yr oll dwi wedi gwneud ydi cyfieithu’r labeli enwau i Gymraeg.

Y syniad ydi rhyddhau’r fersiwn Cymraeg yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd eisiau ei ddefnyddio – bod yn unigolion, cynghorau neu gwmnïau.

Ond cyn rhyddhau’r data – dwisho chi i helpu fi i wirio’r data gyntaf! Dwi wedi creu map rhyngweithiol hefo’r data – cliciwch isod i’w agor:

 

Os da chi’n gweld camgymeriad, neu rywbeth dwi wedi fethu, plîs gadewch i mi wybod, unai drwy neges isod, neu drwy e-bost (dafyddelfryn@gmail.com) neu ar twitter (@dafyddelfryn).

O.N. Ar hyn o bryd, dwi ond yn cyfieithu’r labeli sydd ar y map gwreiddiol – dwi ddim yn ychwanegu data ychwanegol

Diolch mawr

Hwyl

Dafydd

11 Comments

  1. Mark · Ionawr 21, 2017

    Helo, angen ‘h’ ar Trefdraet yn Sir Benfro. Pob hwyl.

  2. Dylan · Ionawr 21, 2017

    Gwaith da!

    Angen G ar flaen Gwdig?

    Angen ail D ar ddiwedd Trefyclawdd

  3. Dylan · Ionawr 21, 2017

    Cwestiwn –

    Os rhoi enw Cymraeg ar Croesoswallt a ddylid gwneud yn yr un modd gyda phob tref ar y Gororau? Nantwich, Shrewsbury, Chester, Bishop’s Castle, Kington, Ludlow Ac ati?

    Dell fod rhaid tynnu ffin, os felly a ddylid rhoi Oswestry yno a defnyddio’r ffin go iawn? Neu enwau’n Cymraeg cywir ar y cyfan… Dyblu’r gwaith…

    • Dafydd Elfryn · Ionawr 21, 2017

      Hia Dylan

      Fu si’n pendroni faint o enwau tros y ffin i gyfieithu. Roedd lebal Croesoswallt yn croesi drosodd i Gymru, felly’n edrych yn well wedi ei newid. Ma na nifer wrth ochr Lerpwl hefyd sydd yn agos.

      Mae’r map llawn yn un or DU i gyd – ond dwi’n meddwl be nai ydi creu fersiwn cropped (tebyg i beth sydd yn y map uchod) a cyfieithu popeth o fewn y fersiwn yna.

      Amser (a mynad!) dwi angen wan 🙂

      Diolch

      Dafydd

  4. Dylan Foster Evans · Ionawr 21, 2017

    Diolch am hyn – gwaith diddorol iawn. Ga’i ofyn pa restr o enwau lleoedd yr ydych yn ei defnyddio ar gyfer y ffurfiau Cymraeg?

  5. Busnes Da (@BusnesDa) · Mawrth 8, 2017

    Hyn yn wirioneddol ardderchog. Oes sgôp i gynhyrchu mapiau manylach yn uniaith Gymraeg?

    Rhai pethau efallai angen ei newid?

    Llanfair-ym-Muallt yn hytrach na Llanfair ym Muallt

    Ai Post-mawr yw enw Cymraeg ar Synod Inn? Efallai caf i fy nghywiro gan rywun arall ar hynny.

    Y Gelli Gandryll yn hytrach na dim ond Y Gelli?

    Crucywel yn lle Crug Hywel?