Pynciau Lefel A Mwyaf Poblogaidd Cymru

Mae Cymru yn genedl o Haneswyr a Mathemategwyr yn ôl ffigyrau newydd. Mae data ar wefan StatsCymru yn dangos pa bynciau Lefel A oedd y mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn ystod 2015-16. Ar dop y rhestr, o drwch blewyn mae Hanes, gyda Mathemateg yn ail agos iawn. (linc data llawn – CLIC)

Pynciau Mwyaf Poblogaidd

Mae’r siart isod yn dangos y pynciau lefel A fwyaf poblogaidd:

Poblogrwydd Dros Amser

Wrth edrych ar yr amrediad data o 2008-2016, mi fedrwn ni weld pa bynciau sydd wedi bod fwyaf poblogaidd dros amser. Mae’r siart yma yn dangos y pynciau sydd wedi denu’r nifer fwyaf o fyfyrwyr ar gyfartaledd ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r siart yn debyg iawn i’r un uchod, ond un newid mawr yw bod Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu wedi cael ei amnewid am Astudiaeth Grefyddol. Mae’r siart yma yn dangos niferoedd yn astudio’r pynciau dros y cyfnod.

Ar gyfartaledd, roedd TGCh yn colli 121 myfyriwr y flwyddyn, tra roedd Astudiaethau Crefyddol yn ennill 55. Erbyn 2015-16, mae TGch wedi llithro allan o’r 10 uchaf i rif 11. Mae’n rhyfedd gweld, mewn byd ble mae technoleg mor bwysig, bod llai o bobl ifanc yn mynd ati i astudio TGCh. Dybed os daw hyn yn broblem wrth i fwy a fwy o swyddi gael eu llyncu gan gyfrifiaduron a thechnoleg?

 

Niferoedd Yn Astudio Lefel A Dros Y Cyfnod

Rhywbeth arall sydd efallai yn bryderus yw bod y niferoedd sydd yn astudio Lefel A wedi bod yn disgyn ar gyfartaledd o 890 pob blwyddyn. Yn 2008, roedd dros 30,000 wedi cofrestru i astudio pwnc lefel A. Erbyn 2016, roedd wedi disgyn o dan 23,871.

Ydi hyn oherwydd bod pobl ifanc yn dewis mynd yn syth i waith, neu yn dilyn cwrs addysg gwahanol. Ta yw hyn yn arwydd o broblem yn y system addysg bellach yng Nghymry.