Am Dro – Capel Celyn

Am Dro – Capel Celyn

Capel Celyn

Yn dilyn y cyfnod tywydd sych ‘ma da ni wedi gael yng Nghymru yn ddiweddar, mae lefel y dŵr yng nghronfa Llyn Celyn wedi disgyn yn sylweddol. Ar ôl gweld lluniau gwych gan sawl un ar y we, mi es am dro lawr i weld fy hun. Er bod lefel y dŵr wedi cychwyn codi, roedd o dal yn brofiad rhyfedd.

Cae-Garnedd

Mae’r maes parcio bychain ar ochr orllewinol y llun, ar dir hen fferm Cae-Garnedd. Os da chi’n trafeilio o ochrau Trawsfynydd, mi ddewch ar ei draws yn ddidrafferth.

Mae llwybr byr yn tywys chi i lawr i lethrau’r llyn. Roedd hi’n amlwg yn syth bod y lefel lot is na’r arfer.

I’r chwith o’r llwybr, roedd yr afon Tryweryn yn fyddarol wrth iddi ail lenwi’r llyn.

Nes i’m mentro croesi’r afon (ofn cael socsan!), ond ar yr ochr arall, roedd gweddillion bonion coed i’w gweld yn glir. Ar un adeg, roedd y rhain yn rhan o Goedwig Boch-y-Rhaiadr.

Yn drawiadol – roedd tyfiant newydd ymhobman yno.


Beryg na fydd hir oes i’r planhigion bychain yma wrth i lefel y dŵr godi eto 🙁

Roedd y tir o amgylch y llyn yn batrwm o streipiau llinellau llanw uchel.

Roedd ‘na ambell wal i weld ar y glannau. Dwi’m yn gwybod os mai rhywbeth “newydd” oedd y rhain, ta olion o’r hen dirwedd cyn y boddi. Wrth edrych ar y mapiau hanesyddol (linc) mae’n debyg mai tir fferm Beudy Isaf oedd hwn ar un adeg.

Wrth ymyl y dŵr, roedd ambell fonyn i weld, ynghyd a rhyw dyfiant rhyfedd ar y cerrig yno. Dwi’m yn siŵr os mai rhyw fath o algae ydio, neu wymon?

Coed Ty’n-Y-Cerrig

Nes i benderfynu trafeilio lawr i’r argae wedyn. Ar ôl cerdded drosodd, mae ‘na lwybr bach heibio’r overflow concrit anferth i lawr at y dŵr.

 

Mae’r overflow yn edrych fel rhyw UFO anferth, ac yn ychwanegu i’r naws “weird” sydd yna. Yng nghanol y llyn, mae’r “Outlet Tower”. O dan hwn mae’r beipen sydd yn tynnu’r dŵr allan (yn ôl be ma’ Google yn ei ddweud!)

(Mae gweld adeiladau diarth fel hyn yng nghanol natur yn atgoffa fi o waith gwych Simon Stalenhag – mae’n werth gweld ei stwff – linc)

Ar un adeg, roedd yr ardal yma i gyd yn rhan o goedwig Ty’n-y-Cerig. Mae’r ffarm, a rhan ddeheuol y goedwig dal yna, ond mae’r glannau yn llawn hen fonion, sydd wedi cael eu bleachio ai siapio gan y dŵr.

Ma’ nhw’n atgoffa fi o’r facehuggers o’r ffilms Alien! Roedd yr hen ffens isod wedi gweld dyddiau gwell. Sa gan y ffarmwr mwy o siawns dal tetanus na dal defaid nol hefo hon.

Bonion yr hen goedwig yng nghysgod yr argae

Hwyl am y tro

Dafydd