Map Lliwiau Cymru
Mae’r map newydd yma yn dangos yr holl* lefydd yng Nghymru sydd hefo lliw yn yr enw.
(dwi’n deud holl oherwydd ma na siawns mod i wedi anghofio ambell un, a wedi cynnwys rhai sydd ddim i fod yna!)
Mae’r map newydd yma yn dangos yr holl* lefydd yng Nghymru sydd hefo lliw yn yr enw.
(dwi’n deud holl oherwydd ma na siawns mod i wedi anghofio ambell un, a wedi cynnwys rhai sydd ddim i fod yna!)
Ychydig o luniau o un o’r llwybrau ym Mharc Padarn, Llanberis sydd yn mynd drwy’r coedwig Alltwen uwchben y llyn.
Yn ddiweddar, es i yn ôl i Glynllifon i gerdded am tro cyntaf ers y clo mawr. Mae’n le bach braf i fynd, gyda llwybrau sy’n dilyn yr afon a drwy’r coed. Dwi’n trio ail-gydio yn y camera a mynd allan i dynnu mwy o luniau (a rhoi stwff ar y blog ma!).
Project bach newydd arall wedi orffen yn y shed. Y tro yma, hen lamp storm baraffin oedd yn cael ychydig o sylw. Ges i gyd i’r lamp yn y shed wrth clirio yn fuan ar ôl i ni brynu y ty, felly roedd hi’n deimlad braf cael dod a’r lamp yn ôl i mewn i ddefnydd. Mae’r fidio ar YouTube isod.
Dwi’m di gallu darganfod oed pendant y lamp, ond mae “Made in West Germany” arno, so mae’n deillio o’r cyfnod pryd roedd yr Almaen wedi hollti (cyn 1990), ond dwi’n tybio bod hi dipyn hyn na hynna.
Mae’r cwmni, Feuerhand, yn dal i fynd. Ma na ychydig o hanes y cwmni yma – https://www.feuerhand.de/en/geschichte/
Gadewch i mi wybod os da chi’n wwynhau y fidio.
Hwyl
Dafydd
Mae’r siart isod yn dangos defnydd gwlau cymhorth anadlu yn ystod y pandemic rhwng 01/04/2020 – 20/10/2020. Cliciwch y linc yma am y fersiwn rhyngweithiol – linc
The chart below shows Invasive ventilated bed availability during the covid pandemic between 01/04/2020 – 20/10/2020. Click here to open the interactive version – link
I gadw’n brysur dros y misoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio ar adfer dipyn o hen bethau sydd genai o gwmpas i drio rhoi bywyd newydd iddynt, ai gwneud yn barod am sawl blwyddyn arall o waith.
Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio ar adfywio hen feis fawr. Roedd y feis wedi rhydu yn ddrwg, yn faw i gyd, a ddim yn troi yn rhyw gret.
Mae’r fidio isod yn dangos y rhan cyntaf o’r gwaith – tynnu’r feis yn ddarnau a’r glanhau. Dwi’n gobethio bydd yr ail ran (y trwsio) wedi gorffen yn fuan.
Gadewch mi wybod os da chi wedi mwynhau’r fidio
Hwyl
Dafydd
Mae’r map isod yn dangos ardaloedd ‘gwag’ Cymru:
I gael gweld fersiwn high-res, cliciwch y linc YMA
Mae’r map isod yn dangos pa ardaloedd o Gymru sydd yn agosach i Iwerddon nac i Loegr.
Mae’r math yma o fapiau wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar, yn benaf yn dangos y rhaniad o fewn gwledydd sydd wedi eu clystyu yn agos e.e. yng nghanol Ewrop.
Di’r map yma ddim cweit mor exiting efallai – ond mae’n diddorol gweld bod na ynysoedd bach o Gymru lle gellir dweud mai dros y môr yn Iwerddon mae’r cymdogion agosaf, ac nid dros y ffin yn Lloegr!
Hwyl
Dafydd
Dwi wedi creu dipyn o fapiau gwahanol o Gymru dros y blynyddoedd, ac er mor bwerus ydi defnyddio mapiau traddodiadol i ddangos a dadansoddi data, mae’n hwyl weithiau trio canfod ffyrdd gwahanol o edrych ar ddata.
Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn chware o gwmpas hefo creu mapiau 3D i greu mapiau ychydig yn wahanol. (mae’r ffaith bod y ferch yn osessed hefo Minecraft ar y funud wedi helpu efallai!)
Isod, mae’r mapiau i gyd, a dwi ‘di trio egluro’n fras sut i greu nhw.