Cyfrifiad 2021 – % Y Poblogaeth Wedi Eu Geni Yng Nghymru

Cyfrifiad 2021 – % Y Poblogaeth Wedi Eu Geni Yng Nghymru

Mae canlyniadau cyfrifiad 2021 yn cychwyn cael eu rhyddhau yn araf ar ôl misoedd o waith cyfri a cyfrifo. Mae’r batch cyntaf yn ymwneud yn bennaf gyda demograffeg ac ymfudo.

Er bod y data llawn ddim ar gael, dwi ‘di creu ambell fap i ddangos be di’r sefyllfa yng Nghymru nawr, a sut mae pethau wedi newid ers 2011.

Mae’r map cyntaf yma yn dangos canran poblogaeth pob Sir oedd wedi cael eu geni yng Nghymru yn ôl cyfrifiaf 2021

Mae’r map isod yn dangos yr un data, ond o 2011

Yn olaf, mae’r map yma yn dangos yn fwy eglur y newid mewn canran rhwng y ddwy gyfrifiad

Mi wnai ail-ymweld a’r mapiau pan fydd y data manwl ar gael yma i greu darlun mwy eglur o’r canrannau uchel/isel a’r newidiadau mwyaf.

Yn y cyfamser, mae’r data craidd ar gael drwy’r ONS yma

Hwyl am y tro

Dafydd