Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Nawr bod yr ONS yn cychwyn rhyddhau data Cyfrifiad 2021, dwi wedi bod yn mapio y ffigyrau newydd.

Un o’r rhai cyntaf oedd map yn dangos canran y poblogaeth a aned yng Nghymru:

Y syniad oedd trio creu rhyw fath o fraslun o fewnfudo yng Nghymru.

Unedau Mamolaeth Dros Y Ffin

Ar ôl cyhoeddi’r map, mi wnaeth sawl un godi pwynt diddorol – does dim unedau mamolaeth yn siroedd Fflint a Powys, ac bod nifer yn cael eu geni dros y ffin yn Lloegr. Os ydi’r unigolion yma yn nodi eu gwlad geni fel Lloegr, mi fysa hynna yn gallu drysu’r ffigyrau.

I drio mesur effaith hyn, dwi wedi cymharu % y poblogaeth a aned yng Nghymru, gyda % y boblogaeth sydd yn uniaethu fel Cymreig (data o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol).

Map Hunaniaeth Gymreig

Mae’r map isod yn dangos canran poblogaeth pob sir sydd yn uniaethu fel Cymreig

Di lliwiau y rhaniadau ddim yn matchio yn union (roedd yr un hunaniaeth yn hen fap), ond mae’r patrymau yn eithaf tebyg. Mae’r siart isod yn dangos pethau yn gliriach:

Mae ffigyrau ar gyfer pob sir yn eithaf agos. Ar gyfartaledd, mae tua 8% yn fwy o’r poblogaeth wedi eu geni yng Nghymru na sydd yn uniaethu fel Cymreig

Yr unig sir sydd ddim yn dilyn y patrwm yw Gwynedd, ble mae mwy o’r poblogaeth yn uniaethu fel Cymreig na aned yng Nghymru.

O ran Powys, mae 47% o’r poblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, gyda 42% yn uniaethu fel Cymreig

Yn Fflint, mae’r ffigyrau bron yr un peth, gyda 48% wedi eu geni yma, ond dim ond 38% yn huniaethu fel Cymreig – yr isaf yng Nghymru.

O’r braslun sydyn yma felly – di cael unedau mamolaeth dros y ffin ddim i weld yn effeithio ar y ffigyrau mewn unrhyw ffordd amlwg.

Hunaniaeth Poblogaeth a Aned Yng Nghymru

O ran diddordeb, mae modd hidlo’r Arolwg Blynyddol i ddangos y ffigyrau hunaniaeth ar gyfer y rhai a aned yng Nghymru yn unig. Dyma sut mae’r map yna yn edrych

I Gloi

Dwi’n gobeithio bod yr uchod wedi bod o ddiddordeb neu werth. Dwi’m yn arbenigwr ar hyn, a dadansoddiad sydyn iawn ydi hwn tra dwi’n cael paned ar fore dydd Sadwrn!

Wrth i fwy o ddata y Cyfrifiad yn cael eu rhyddhau, siawns gawn ni fwy o ddadansoddiadau a trafodaethau pellach.

Diddorol fysa gweld be di’r rheswm fod nifer o’r poblogaeth wedi eu geni a byw yng Nghymru, ond nid yn uniaethu fel Cymry. Efallai eu bod yn etifeddu hunaniaeth y teulu, neu efallai hunaniaeth mwy eang fel Prydeindod?

I gael golwg ar y data craidd, dilynwch y lincs isod:

Cyfrifiad 2021 ONS

Data Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Gadael Ymateb