mapiau

Ffiniau Hanesyddol Cymru Historical Boundaries

Ffiniau Hanesyddol Cymru Historical Boundaries

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn gweithio ar greu fapiau yn dangos yr hen ffiniau yng Nghymru, yn bennaf y cantrefi a cymydau.

Yn ffodus iawn, mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi gwneud y gwaith caled o greu fersiwn digidol o’r data daearyddol yn barod (linc).

Mae’r mapiau isod wedi eu creu hefo’r data yma – ac wedi ei ysbrydoli gan fapiau o lyfrau Tolkien. Cliciwch ar y mapiau, wedyn y botwm “i” yn y gwaelod i gael copi maint llawn.

I weld mwy o fanylion, mae fersiwn rhyngweithiol ar gael yma – Map Rhyngweithiol

Lately I’ve been working on mapping the old boundaries of Wales, namely the Cantrefi and cymydau (commotes).

Luckily for me, the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales already did the hard work of digitising the boundaries into a spatial data format that I could use (link).

The maps below were built using this data, with some inspiration from the maps found in the Tolkien books. Click on the maps, then click on the “i” button to get a high-resolution copy.

An interactive version of the data is also available here – Interactive Map

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Nawr bod yr ONS yn cychwyn rhyddhau data Cyfrifiad 2021, dwi wedi bod yn mapio y ffigyrau newydd.

Un o’r rhai cyntaf oedd map yn dangos canran y poblogaeth a aned yng Nghymru:

Y syniad oedd trio creu rhyw fath o fraslun o fewnfudo yng Nghymru.

Millenials Vs Boomers Cymru

Millenials Vs Boomers Cymru

Mapio’r Millenials a Boomers

Mae’r mapiau isod yn dangos y canran o Boomers a Millenilas sydd ymhob LSOA yng Nghymru. Dwi wedi defnyddio data blwyddyn geni cyfrifiad 2011 i greu’r mapiau (linc).

Dwi wedi defnyddio’r blynyddoedd geni canlynol:

Millenials = 1981 – 1996

Boomers = 1946 – 1964

(Mae’r blynyddoedd geni yma yn gallu newid yn dibynnu ar y ffynhonnell – nes i ddefnyddio’r data o’ wefan Pew Research)

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Bob chwarter, mae’r llywodraeth yn rhyddhau data am hunaniaeth genedlaethol poblogaeth Cymru. Mae’r data yn cynnwys canran poblogaeth pob sir sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.

Dwi wedi mapio’r data yma i greu darlun o hunaniaeth Cymru yn 2019.

Mapio Eisteddfod Yr Urdd

Mae’n amser eisteddfod yr Urdd eto – felly be well na map arall!! Mae’r un isod yn dangos lleoliad pob Eisteddfod Yr Urdd ers 1929 i 2020. (cliciwch i gael y feriswn llawn)

map urdd

Map Urdd

Mapio Enwau Cymraeg Cymru

Mae’n ddiwrnod ieithoedd lleiafrifol Ewrop heddiw, felly dwi wedi penderfynu rhyddhau prosiect mapio bach dwi wedi bod yn datblygu. Y nod yw casglu’r enwau lleol mae pobl yn eu defnyddio am eu cynefin ac yr ardal o’i hamgylch.

Map OS Cymraeg

Map OS Cymraeg

Ers ychydig nawr, pan dwi’n cael rhyw bum munud sbâr, dwi wedi bod yn cyfieithu data map Miniscale yr Ordnance Survey i Gymraeg (wel, y darnau yng Nghymru o leiaf)

Mae’r data MiniScale i gael am ddim dan drwydded data agored OS (linc), Yr oll dwi wedi gwneud ydi cyfieithu’r labeli enwau i Gymraeg.

1 of 2
12