Map Lliwiau Cymru
Mae’r map newydd yma yn dangos yr holl* lefydd yng Nghymru sydd hefo lliw yn yr enw.
(dwi’n deud holl oherwydd ma na siawns mod i wedi anghofio ambell un, a wedi cynnwys rhai sydd ddim i fod yna!)
Mae’r map newydd yma yn dangos yr holl* lefydd yng Nghymru sydd hefo lliw yn yr enw.
(dwi’n deud holl oherwydd ma na siawns mod i wedi anghofio ambell un, a wedi cynnwys rhai sydd ddim i fod yna!)
Mae’r map isod yn dangos ardaloedd ‘gwag’ Cymru:
I gael gweld fersiwn high-res, cliciwch y linc YMA
Dwi wedi creu dipyn o fapiau gwahanol o Gymru dros y blynyddoedd, ac er mor bwerus ydi defnyddio mapiau traddodiadol i ddangos a dadansoddi data, mae’n hwyl weithiau trio canfod ffyrdd gwahanol o edrych ar ddata.
Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn chware o gwmpas hefo creu mapiau 3D i greu mapiau ychydig yn wahanol. (mae’r ffaith bod y ferch yn osessed hefo Minecraft ar y funud wedi helpu efallai!)
Isod, mae’r mapiau i gyd, a dwi ‘di trio egluro’n fras sut i greu nhw.
SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Da ni yng nghanol cyfnod hollol unigryw yn hanes Cymru. Mae’ ysgolion i gyd wedi cau, busnesau wedi cloi a mae’r poblogaeth i gyd o dan lockdown.
Y coronavrus ydi’r unig stori sydd yna ar y newyddion, ond, fel sy’n digwydd yn rhu aml, mae’r rhan fwyaf o’r straeon, ffigyrau a gwybodaeth da ni’n gael yma wedi ei ffiltro unai drwy berspectif Prydeinig, neu Lloegr.
Ar ddechrau’r pandcmic, fe greodd Public Health England ddashffwrdd rhyngweithiol er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn y datblygiadau. Yn anffodus, chawson ni ddim byd tebyg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), felly nes i benderfynu creu un fy hun!
Mae’r mapiau isod yn dangos y canran o Boomers a Millenilas sydd ymhob LSOA yng Nghymru. Dwi wedi defnyddio data blwyddyn geni cyfrifiad 2011 i greu’r mapiau (linc).
Dwi wedi defnyddio’r blynyddoedd geni canlynol:
Millenials = 1981 – 1996
Boomers = 1946 – 1964
(Mae’r blynyddoedd geni yma yn gallu newid yn dibynnu ar y ffynhonnell – nes i ddefnyddio’r data o’ wefan Pew Research)
Bob chwarter, mae’r llywodraeth yn rhyddhau data am hunaniaeth genedlaethol poblogaeth Cymru. Mae’r data yn cynnwys canran poblogaeth pob sir sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.
Dwi wedi mapio’r data yma i greu darlun o hunaniaeth Cymru yn 2019.
Sbel yn ôl, nes i bostio map ar Twitter yn dangos niferoedd unedau gwyliau o fewn wardiau Cymru.
Nes i’m disgwyl fysa’r map yn cael gymaint o sylw! – a ges i ddipyn o bobl yn holi am fwy o wybodaeth am y data craidd, be oedd yn cael ei ddangos, ac am fapiau gwahanol ayyb.
Di Twitter ddim yn grêt o le i ateb cwestiynau a cael trafodaeth iawn, felly dwi wedi trio rhoi mwy o wybodaeth lawr ar y blog yma. Gobeithio neith o ateb ychydig o’r cwestiynau a gododd, a chyflwyno ychydig mwy o wybodaeth.
Map bach newydd heddiw – Caerydd wedi ei liwio yn ôl canran siaradwyr Cymraeg (cyfrifiad 2011)
Cliciwch yma i gael fersiwn maint llawn (linc)
Dafydd