Mapiau Tirwedd Cymru

Mapiau Tirwedd Cymru

Ffordd Wahanol O Edrych Ar Gymru

Dwi wedi creu dipyn o fapiau gwahanol o Gymru dros y blynyddoedd, ac er mor bwerus ydi defnyddio mapiau traddodiadol i ddangos a dadansoddi data, mae’n hwyl weithiau trio canfod ffyrdd gwahanol o edrych ar ddata.

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn chware o gwmpas hefo creu mapiau 3D i greu mapiau ychydig yn wahanol. (mae’r ffaith bod y ferch yn osessed hefo Minecraft ar y funud wedi helpu efallai!)

Isod, mae’r mapiau i gyd, a dwi ‘di trio egluro’n fras sut i greu nhw.

Meddalwedd

Yn ffodus i fi, mae ‘na “plugins” a ballu ar gael wan sy’n hwyluso’r broses. Dwi’n defnyddio meddalwedd QGIS i greu’r mapiau, a mae plugin ar gael o’r enw QGis2threejs.

Os da chi ffansi trio creu rhywbeth yn QGIS, nes i greu fidio bach sydyn yn ddiweddar i helpu chi gychwyn.

Data

Ar gyfer y mapiau isod, dwi wedi defnyddio cyfrifiad 2011 o wefan Nomis. Dwi’n gwybod bod y data yma yn hen erbyn hyn, ond dio’m yn hawdd iawn cael data lefel isel fel ward neu LSAO. Mae’r rhan fwyaf yn cael ei gyflwyno ar lefel sir ac o ni’n meddwl sa map 3D yn edrych yn well hefo mwy o “lefelau” na jyst y siroedd.

Y Mapiau

Isod, mae fersiynau mawr o’r mapiau dwi wedi creu yn barod. Os nai greu mwy, mi wnai ychwanegu nhw yma. Cliciwch i weld y fersiwn llawn.

Hwyl

Dafydd