Yr Hashnodau Cymraeg Mwyaf Poblogaidd

Yr Hashnodau Cymraeg Mwyaf Poblogaidd

Yn y blogiad olaf (linc), mi wnes i ddefnyddio data o gorpws twitter techiaiath (linc) i ddadansoddi datblygiad y Gymraeg ar twitter o 2007 ymlaen.

Un rhan o’r dadansoddiad oedd edrych ar ba hashnodau (hashtags) oedd y fwyaf poblogaidd dros y cyfnod. Y tro yma, dwi wedi defnyddio’r un data i ddadansoddi’n fanylach pa hashnodau oed fwyaf poblogaidd dros y misoedd dan sylw.

Cywirdeb y Dadansoddiad

Cyn cychwyn, dwi angen pwysleisio nad yw’r dadansoddiad yma yn 100% cywir. O’r 2,831,265 cofnod yn y ffeiliau gwreiddiol, cafodd 10% eu tynnu allan oherwydd bod y data yn y colofnau anghywir. Dwi wedi trio cywiro’r data drwy ddefnyddio reCSVeditor (linc) – ond heb lwyddiant.

Defnydd Hashnodau

Dechreuodd yr hashnod gael ei ddefnyddio o ddifri ar twitter yn 2009. Mae’r graff isod yn dangos y cynnydd mewn twîts Cymraeg dros y cyfnod.

 

Mae’r graff yma yn dangos sawl un o’r twîts uchod oedd yn cynnwys o leiaf un hashnod.

 

Rhwng 2011-2014, ar gyfartaledd, roedd 31% o bob twît Cymraeg yn cynnwys o leiaf un hashnod.

 

Hashnodau Fesul Blwyddyn

Mae’r graffiau isod yn dangos yr hashnodau mwyaf poblogaidd pob mis o 2009 ymlaen.

 

Yn 2013, daeth yr hashnod #YAGYM i ddefnydd. Hwn yw’r hashnod Cymraeg fwyaf poblogaidd erioed, ac mae’n bell o flaen y gweddill (linc). Oherwydd hyn, dwi wedi creu dau graff ar gyfer 2013, 2014, 2015 yn ystyried a eithrio’r hashnod.

Tueddiadau

Mae’r graffiau uchod yn cadarnhau llwyddiant yr hashnod #YAGYM – mae’n ymddangos fel y hashnod fwyaf poblogaidd 15 gwaith. Yn ail mae #NEWYDDION, sy’n ymddangos 6 gwaith, ac yna #S4C yn drydedd, sy’n ymddangos 4 gwaith. Dwi wedi cynnwys y rhestrau llawn yng ngwaelod y blog yma (clic). Fel yn y graffiau uchod, dwi wedi creu rhestr yn cynnwys ac eithrio #YAGYM.

Yn olaf, wrth edrych ar y canlyniadau, mae modd gweld be sy’n boblogaidd yn ystod y flwyddyn e.e.

  • Chwefror a Mawrth = Can i Gymru
  • Mai a Mehefin = Yr Urdd
  • Awst = Eisteddfod
  • Rhagfyr = Nadolig

 

Data Gwreiddiol

I’r rhai sydd hefo diddordeb, dyma’r linc i’r data gwreiddiol nes i ddefnyddio:

Linc 154MB

Mae’r ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau unigol wedi eu cyfuno i un csv mawr. Dwi ddim wedi prosesu’r ffeil ddim pellach.

Dwi’n argymell i chi fynd i wefan corpws techiaith i ddarllen y canllawiau ac i gael gwybodaeth bellach (linc)

Gadewch mi wybod so da chi’n gwneud rhywbeth diddorol hefo’r data 🙂

Hwyl

Dafydd

 

Rhestr Nifer Hashnodau

Mae’r rhestrau isod yn dangos sawl gwaith fuodd pob hashnod yn yr un fwyaf poblogaidd y mis.

Yn Cynnwys #YAGYM

HASHNOD – SAWL GWAITH AR Y BRIG
1. #YAGYM – 15
2. #NEWYDDION – 6
3. #S4C – 4
4. #CYMRAEG – 3
5. #IEDROSGYMRU – 3
6. #METASTWNSH – 3
7. #PLAIDCYMRU – 3
8. #DYSGU – 2
9. #NADOLIGLLAWEN – 2
10. #STEDDFOD2011 – 2
11. #YGWYLL – 2
12. #CIG10 – 1
13. #CIG2012 – 1
14. #CIG2013 – 1
15. #CIG2014 – 1
16. #CWPANYBYD – 1
17. #CYMRU365 – 1
18. #DRHA2009 – 1
19. #EISTEDDFOD09 – 1
20. #EISTEDDFOD2011 – 1
21. #ETHOLIAD10 – 1
22. #ETHOLIAD2012 – 1
23. #EUROVISION – 1
24. #GG12 – 1
25. #GIG50 – 1
26. #HER100CERDD – 1
27. #LGBT – 1
28. #REFFALBAN – 1
29. #RYGBI – 1
30. #SENEDD2011 – 1
31. #STEDDFOD2012 – 1
32. #STEDDFOD2013 – 1
33. #STEDDFOD2014 – 1
34. #URDD – 1
35. #URDD2012 – 1
36. #URDD2013 – 1
37. #URDD2014 – 1
38. #YBONT – 1

Yn Eithrio #YAGYM

HASHNOD – SAWL GWAITH AR Y BRIG
1. #NEWYDDION – 8
2. #CYMRAEG – 4
3. #S4C – 4
4. #IEDROSGYMRU – 3
5. #METASTWNSH – 3
6. #PLAIDCYMRU – 3
7. #DYSGU – 2
8. #NADOLIG – 2
9. #NADOLIGLLAWEN – 2
10. #STEDDFOD2011 – 2
11. #URDD2013 – 2
12. #YGWYLL – 2
13. #CIG10 – 1
14. #CIG2012 – 1
15. #CIG2013 – 1
16. #CIG2014 – 1
17. #CORCYMRU – 1
18. #CWPANYBYD – 1
19. #CYMRU365 – 1
20. #CYSGUNBRYSUR – 1
21. #DIMBYD – 1
22. #DRHA2009 – 1
23. #EIRA – 1
24. #EISTEDDFOD09 – 1
25. #EISTEDDFOD2011 – 1
26. #ETHOLIAD10 – 1
27. #ETHOLIAD2012 – 1
28. #EUROVISION – 1
29. #GG12 – 1
30. #GIG50 – 1
31. #HER100CERDD – 1
32. #IAITHFYW – 1
33. #LGBT – 1
34. #PC14 – 1
35. #PLAID15 – 1
36. #REFFALBAN – 1
37. #RYGBI – 1
38. #SENEDD2011 – 1
39. #STEDDFOD2012 – 1
40. #STEDDFOD2013 – 1
41. #STEDDFOD2014 – 1
42. #STEDDFODCARDI – 1
43. #URDD – 1
44. #URDD2012 – 1
45. #URDD2014 – 1
46. #YBONT – 1
47. #YPLAS – 1