YouTube – Crwydro Hen Chwarel Nant Gwrtheyrn
Ar ddiwrnod braf nol yn 2022 mi nes i grwydro hen chwarel ithfaen Nant Gwrtheyrn. Ma na ddipyn o’r hen adeiladau ar ôl, ac mae’r golygfeydd yn ffantastig!
Ar ddiwrnod braf nol yn 2022 mi nes i grwydro hen chwarel ithfaen Nant Gwrtheyrn. Ma na ddipyn o’r hen adeiladau ar ôl, ac mae’r golygfeydd yn ffantastig!
Project bach newydd arall wedi orffen yn y shed. Y tro yma, hen lamp storm baraffin oedd yn cael ychydig o sylw. Ges i gyd i’r lamp yn y shed wrth clirio yn fuan ar ôl i ni brynu y ty, felly roedd hi’n deimlad braf cael dod a’r lamp yn ôl i mewn i ddefnydd. Mae’r fidio ar YouTube isod.
Dwi’m di gallu darganfod oed pendant y lamp, ond mae “Made in West Germany” arno, so mae’n deillio o’r cyfnod pryd roedd yr Almaen wedi hollti (cyn 1990), ond dwi’n tybio bod hi dipyn hyn na hynna.
Mae’r cwmni, Feuerhand, yn dal i fynd. Ma na ychydig o hanes y cwmni yma – https://www.feuerhand.de/en/geschichte/
Gadewch i mi wybod os da chi’n wwynhau y fidio.
Hwyl
Dafydd
I gadw’n brysur dros y misoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio ar adfer dipyn o hen bethau sydd genai o gwmpas i drio rhoi bywyd newydd iddynt, ai gwneud yn barod am sawl blwyddyn arall o waith.
Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio ar adfywio hen feis fawr. Roedd y feis wedi rhydu yn ddrwg, yn faw i gyd, a ddim yn troi yn rhyw gret.
Mae’r fidio isod yn dangos y rhan cyntaf o’r gwaith – tynnu’r feis yn ddarnau a’r glanhau. Dwi’n gobethio bydd yr ail ran (y trwsio) wedi gorffen yn fuan.
Gadewch mi wybod os da chi wedi mwynhau’r fidio
Hwyl
Dafydd