Coronavirus – Cymru A’r Byd
Deg Gwlad Uchaf
Mae prifysgol John Hopkins yn yr UDA wedi creu gwefan hynod ddiddorol yn cymharu achosion coronavirus ar draws y byd, gan edrych yn bennaf ar y ddeg wlad sydd hefo’r nifer mwyaf o achosion (LINC)
Fel sydd yn digwydd bob tro, mae’r ffigyrau Cymru yn cael ei cynnwys fel rhan o’r DU. Nes i feddwl sa’n ddiddorol cael gweld sut mae Cymru (a gwledydd eraill y DU), yn cymharu yn erbyn gweddill y 10 uchaf. Mae’r blog bach sydyn yma yn crynhoi y ffigyrau yna.
Canran Poblogaeth
I gael cymhariad tecach, nes i benderfynu cyfrifo’r niferoedd fel canran o’r boblogaeth. Dyw edrych ar niferoedd achosion rhwng dwy wlad ddim yn dangos y gwir gymhariaeth os oes gan un wlad boblogaeth sydd dros 100 gwaith mwy na’r llall!
Mi ges i ffigyrau poblogaeth y gwledydd o wikipedia. Dwi’n siŵr bod ‘na lot o bobl yn gweiddi ar y sgrin wan gan ddweud na ellir dibynnu ar ffigyrau yna – ond ar gyfer arbrawf sydyn fel hyn, mae ddigon da i mi.
Ffigyrau Tseinia
Mae na lot o ddadlau ar hyn o bryd am gywirdeb ffigyrau sydd yn dod o Tsieina. Dwi wedi cynnwys y ffigyrau fel mha nhw ar wefan John Hopkins. Oherwydd poblogaeth anferth Tsieina, mae’r canran yn mynd i fod yn isel iawn beth bynnag.
Achosion Coronavirus Fel % Poblogaeth
Mae’r siart isod yn cymharu achosion Cymru a gweddill y deg uchaf.
Wrth edrych ar y canrannau, mae’r sefyllfa yma yng Nghymru yn debyg iawn i’r sefyllfa yn yr UDA. Maer’ canran achosion yma hefyd yn uwch na pob gwlad arall yn y DU.
Yn Sbaen a’r Eidal mae’r ffigyrau uchaf i weld, fel sydd wedi cael ei adlewurchu yn yr adroddiadau newyddion.
Marwolaethau Fel % Achosion
Gan fod y wefan hefyd yn cynnwys y data marwolaethau, dwi wedi creu ail siart yn dangos y marwolaethau fel canran o achosion pob gwlad.
Di’r siart yma ddim yn hollol gywir, oherwydd dwi’m yn gwybod faint o’r rhai sydd wedi marw sydd wedi cael eu cyfri yn y nifer achos ayyb – ond mae’n rhoi rhyw syniad i ni o sut mae’r gwledydd yn perfformio o ran trin yr achosion.
Un peth sydd yn neidio allan yw canran uchel Lloegr, ffigwr sydd yn agos iawn i Sbaen (Er bod nifer yr achosion yn llawer is yn Lloegr).
Be sydd hefyd yn ddiddorol yw gweld yr Almaen yn y gwaelod. Er bod yr Almaen hefo niferoedd eithaf uchel o’r feirws (y pedwerydd o ran canran), mae’r canran o’r rhai sydd yn marw yn isel iawn. Efallai bod modd edrych ar sut mae’r Almaen yn trin y feirws, a dysgu o hynnu.
Cadwch yn saff, a hwyl am y tro
Dafydd