coronavirus

Siart Râs Coronavirus Cymru

Siart Râs Coronavirus Cymru

Fel arbrawf bach, dwi wedi defnyddio data niferoedd achosion Coronavirus Byrddau Iechyd Cymru i greu siart râs yn dangos y tyfiant dros amser. Mae siartiau fel hyn wedi dod yn boblogaidd iawn dyddiau ‘ma, a ma nhw’n ffordd effeithiol o ddangos tyfiant.

Nai drio diweddaru fo mewn sbel hefo mwy o ddyddiadau ayyb.

Hwyl am y tro
Dafydd

Coronavirus – Cymru A’r Byd

Coronavirus – Cymru A’r Byd

Deg Gwlad Uchaf

Mae prifysgol John Hopkins yn yr UDA wedi creu gwefan hynod ddiddorol yn cymharu achosion coronavirus ar draws y byd, gan edrych yn bennaf ar y ddeg wlad sydd hefo’r nifer mwyaf o achosion (LINC)

Fel sydd yn digwydd bob tro, mae’r ffigyrau Cymru yn cael ei cynnwys fel rhan o’r DU. Nes i feddwl sa’n ddiddorol cael gweld sut mae Cymru (a gwledydd eraill y DU), yn cymharu yn erbyn gweddill y 10 uchaf. Mae’r blog bach sydyn yma yn crynhoi y ffigyrau yna.

Coronavirus Cymru

Coronavirus Cymru

Y Coronavirus Yng Nghymru

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Da ni yng nghanol cyfnod hollol unigryw yn hanes Cymru. Mae’ ysgolion i gyd wedi cau, busnesau wedi cloi a mae’r poblogaeth i gyd o dan lockdown.

Y coronavrus ydi’r unig stori sydd yna ar y newyddion, ond, fel sy’n digwydd yn rhu aml, mae’r rhan fwyaf o’r straeon, ffigyrau a gwybodaeth da ni’n gael yma wedi ei ffiltro unai drwy berspectif Prydeinig, neu Lloegr.

Ar ddechrau’r pandcmic, fe greodd Public Health England ddashffwrdd rhyngweithiol er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn y datblygiadau. Yn anffodus, chawson ni ddim byd tebyg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), felly nes i benderfynu creu un fy hun!