Dwysedd Poblogaeth Cymru

Dwysedd Poblogaeth Cymru

Dwi wedi sôn sawl gwaith ar y blog yma am ddwysedd poblogaeth y wlad neu sir. Mae canfod dwysed poblogaeth yn ffordd ddefnyddiol o gymharu ardaloedd, ac mae’n cael ei ddefnyddio mewn nifer o ddadansoddiadau.

Er bod y rhesymeg y tu ôl i ddwysedd poblogaeth yn eithaf syml – rhannu’r boblogaeth gyda’r arwynebedd – nes i feddwl sgwennu blogiad ar sut dw’n mynd ati i gyfrifo’r dwysedd, a darganfod ychydig o ffeithiau diddorol ar y ffordd.

Be Ydi Gwir Faint Cymru?

Cyn darganfod beth yw dwysedd poblogaeth Cymru, mae rhaid darganfod beth yw ei wir faint. Mae’n swnio’n gwestiwn rhyfedd, ond mae sawl ffordd o fesur maint arwynebedd gwlad – yn enwedig gan fod gan Gymru arfordir anferth. Mae’r Ordnance Survey fel enghraifft yn cyhoeddi nifer o’i data mewn dwy ffordd – “Extent of the realm” – sydd yn cynrychioli maint Cymru wedi ei fesur yn ôl llinell llanw allan, ac “Clipped to coastline“, sydd yn cynrychioli maint Cymru pan mae’r llanw i mewn.

Be ydi maint y gwahaniaeth yma? Wel, yng Nghymru, mae’r tir ychwanegol sydd yn cael eu datgelu pan mae’r llanw allan yn 444km2 – ardal sy’n gyfatebol i ynys Barbados! (Cantref Gwaelod modern efallai!?).

Ar gyfer y dadansoddiadau yn y blogiad yma – nes i ddefnyddio maint Cymru pan fo’r llanw allan (y mesur mwyaf). Mae hyn yn golygu bod arwynebedd Cymru yn 21,224km2 (o ran maint felly, yn ôl y rhestr yma – linc – Cymru yw’r 152 wlad fwyaf yn y byd)

Dwysedd Poblogaeth Cymru

Yn ogystal ag arwynebedd, da ni’n amlwg angen gwybod y boblogaeth. Yn ôl gwefan StatsCymru (linc), cyfanswm Poblogaeth Cymru yn 2013 oedd 3,082,412. Mae’r graff isod yn dangos y trawstoriad fesul sir:

Fel sy’n amlwg, mae Caerdydd ymhell ar y blaen. Mae’r siart isod yn dangos arwynebedd pob sir (wedi cadw’r un drefn a’r siart uchod).

Mae’r siart yn dangos bod dim perthynas rhwng poblogaeth a maint sir (a hefyd fod Powys yn anferth!).

Nawr bod y mesuriadau i gyd yma – fedrwn ni gyfrifo dwysedd poblogaeth drwy rannu’r nifer o bobl gyda maint yr ardal, Mae hynna’n golygu fod dwysedd Poblogaeth Cymru yn….. 144 person i bob km2.

Ffordd arall i edrych ar y ffigwr yw – os fyswn ni’n rhannu holl dir Cymru yn hafal rhwng y boblogaeth, mi fysa pawb yn cael tamaid o dir 6885m2 (rhyw 1.7 acer – hen ddigon i adeiladu tŷ bach!). Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys afonydd, llynnoedd a mynyddoedd, felly fydd rhai pobl anffodus yn cael darnau llai moethus nac eraill.

O ran diddordeb – nes i edrych ar brisiau tir yng Nghymru (linc) ac ar gyfartaledd, mae acer o dir yma yn costio o gwmpas £68,000 – sy’n golygu fod gwerth yr holl dir yng Nghymru (sydd tua 5,244,696 acer) yn £356,639,362,833!! a bydd ein llecyn 1.7 acer ni werth rhyw £115,600.

 

Cymharu’r Dwysedd Ar Lefel Sir

Fel da ni wedi gweld yn y siartiau uchod, mae poblogaeth Cymru wedi ei rannu’n annheg rhwng y siroedd – ac mae hyn yn cael effaith mawr ar ddwysedd poblogaeth pob sir. Mae’r siart isod yn dangos y ffigyrau:

Mae ffigwr Caerdydd yn wallgo’ o uchel i gymharu gyda gweddill y wlad – bron dair gwaith mwy na’r sir nesaf, Torfaen.

I gael darlun gwell o ba mor ddwys yw’r boblogaeth yng Nghaerdydd, mae’r graff isod yn dangos faint o dir fysa’r boblogaeth yn ei gael os fysa’r siroedd yn cael eu rhannu allan yn hafal i’r trigolion.

Prin ymddangos ar y siart mae Caerdydd, gyd dim ond 425m2 ar gael i’r drigolion, ble mae gan trigolion Powys ar y llaw arall 39150m2 yr un.

 

Defnydd Tir

I gymharu’r ffigyrau yma mewn ffordd ychydig mwy gweledol – os fysa pawb yng Nghymru yn cael eu gwasgu at ei gilydd i ddwysedd poblogaeth Caerdydd, dyma faint o’r wlad sa’ ni angen:

Dwysedd Poblogaeth Caerdydd

Dwysedd Poblogaeth Caerdydd

O dan yr amgylchiadau yma, mi fysa’r boblogaeth yn gallu byw o fewn darn o dir 1310km2 – ardal ychydig mwy na Sir Conwy.

Os fysa pawb yn closio i mewn i ddwysedd Wrecsam, dyma’r canlyniad:

Dwysedd Poblogaeth Wrecsam

Dwysedd Poblogaeth Wrecsam

Mi fysa angen ardal 11384km2 i ddal y boblogaeth (ychydig llain na Qatar – siawns am gwpan y byd yma yng Nghymru felly!).

Pan da ni’n symud i’r nesaf, sef Sir Ddinbych, da ni’n canfod problem: nid fysa Cymru ddigon mawr i ddal y boblogaeth i gyd! Mi fyswn ni agen un Gymru lawn + tamaid arall:

Dwysedd Poblogaeth Dinbych

Dwysedd Poblogaeth Dinbych

Yn olaf wrth gwrs mae Powys, sir anferth gyda phoblogaeth fach. Os fysa pawb yn byw o fewn yr un dwysedd a Powys, mi fyswn ni angen bron iawn i 6 Cymru i’w dal!!

Dwysedd Poblogaeth Powys

Dwysedd Poblogaeth Powys

Mae huna’n ardal tua 120,675km2 – tebyg iawn i faint Gogledd Corea! (Cofiwch felly ddweud wrth bawb mai Powys yw Gogledd Corea siroedd Cymru!)

Cymharu Gyda’r DU ac Iwerddon

Nawr ein bod wedi cymharu’r siroedd, sut mae dwysedd poblogaeth Cymru yn cymharu gyda’n cymdogion agosaf? Mae’r graff isod yn eu dangos y ffigyrau:

Gyda Lloegr ymhell ar y blaen – a thwf mewnfudwyr i’r wlad yn dal i fod yn uchel – mae’n debyg mai cynyddu gwneith y gwahaniaeth rhwng Lloegr a gweddill y gwledydd.

Cymharu Gydag Ewrop

Mae’r siart isod yn dangos lle da ni’n ffitio i mewn o ran Ewrop:

 

Cymharu a Gweddill y Byd

Yn olaf – dyma lle da ni’n eistedd ar lefel rhyngwladol

Beth sy’n syndod yma ydi fod dwysedd poblogaeth Cymru fach yr un faint a dwysedd poblogaeth Tsiena – y drydedd wlad fwyaf yn y byd, a’r wlad fwyaf poblog (mae bron i 20% o boblogaeth y byd yn byw yno!) Mae hyn yn bosib gan fod Tsiena dros 450 gwaith mwy na Chymru – felly er bod ganddynt boblogaeth anferth, mae’r wlad mor fawr, mae’r dwysedd yn disgyn i’r un lefel a ni.

 

Wel, dyna’r wers yna drosodd – hwyl!

Dafydd