Tuedd Twitter

Tuedd Twitter – Ap Cymraeg

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn arbrofi gyda API’s twitter i greu aps a dehongli data.

Yr un cyntaf yw hwn – “Tuedd Twitter”. Yn syml, mae’r ap yn dychwelyd data hyd at y 200 twît olaf, ai dehongli i weld patrymau twîtio’r defnyddiwr.

Dyma’r linc – CLIC

Tuedd Twitter

Tuedd Twitter

 

Dwi wedi trio dilyn canllawiau “material design” yr Android newydd wrth greu’r ap. (Manylion yma)

Mae ‘na dal ychydig o waith ar ôl i wneud – yn bennaf ar yr ochr mobile responsiveness – ond mae’r system graidd yn gweithio yn iawn. Trïwch o allan a gadewch mi wybod be da chi’n feddwl.

 

Diweddariad!

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ar twitter, dwi wedi newid ychydig ar yr ap. Yn gyntaf, dwi wedi trwsio’r siart math twît – roedd nifer ail-drydar ac ymatebion wedi cael eu cymysgu! Dwi hefyd wedi setio’r graffiau i gychwyn o 0.

Y newid mwyaf oedd i’r data iaith – gan fod nifer wedi ei ddefnyddio yn sgil yr arolwg iaith.

Mae’r siartiau iaith nawr yn cyfrifo ystadegau iaith am dwîts gwreiddiol ac ymatebion “@” yn unig – a dim negeseuon sydd wedi cael eu hail-drydar. Y gobaith yw rhoi darlun mwy cywir o’r defnydd o Gymraeg ar twitter.

Gyda’r ffigyrau iaith – mae’n bwysig cofio mai dibynnu ar algorithm iaith Twitter ei hun ydw’i am y ffigyrau. Mae’r llun isod yn dangos cip o’r data dwi’n ei dderbyn drwy ddefnyddio’r API:

Iaith Twitter

Iaith Twitter

Mae’r algorithm yn pori drwy gynnwys y twît, gan drio paru geiriau i ieithoedd. O be dwi wedi gweld, mae’r algorithm yn gweithio yn weddol lwyddiannus, ond mae’r bias ar Saesneg, felly gelir twit gwbl Gymraeg gael ei labelu fel Saesneg (neu Almaeneg neu Bwyleg hyd yn oed!).

Y canlyniad yw ffigwr sydd yn arwydd gweddol gywir o duedd y defnyddiwr – ond dio ddim yn 100% cywir!! 🙂

Gadewch mi wybod am unrhyw broblemau neu newidiadau fysa’n ddefnyddiol!

Wedi ei adeiladu gyda:

4 Comments

  1. Hywel (@hywelm) · Ionawr 29, 2015

    Gwaith da iawn Dafydd. Llongyfarchiadau.

  2. Hywel (@hywelm) · Ionawr 29, 2015

    Ond wedi ail-edrych dyma’r ‘ond’. Rwy’n meddwl y byddai’n well pe bai echelin-y y siartiau colofn yn dechrau gydag 0 bob tro.