Adolygu Ffigyrau’r Telegraph
Ddoe (5/6/14) ymddangosodd erthygl yn y Telegraph (linc), gyda pennawd brawychus yn rhybuddio y gall y Cymry fod yn leiafrif yn eu gwlad ei hunain.
“Welsh could become a minority in Wales as English set sights west”
Nawr – swn i byth yn trio dweud y bysa papur newydd yn printio pennawdau trawiadol fel hyn jyst i werthu mwy o gopiau – ond o ni’n awyddus i gael gweld y dystiolaeth i fi fy hun. Yn anffodus – dyw’r erthygl ddim yn rhoi cyswllt i’r data craidd (dim ond crybwyll na’r ONS oedd wedi ei gyhoeddi) – na chwaith rhoi manylion ar bwy sydd wedi bod yn edrych drwy’r data. Mae’n amhosib felly cael pori’r drwy’r ffigyrau i gadarnhau ac studio ei canlyniad.
Mewn cyd-ddigwyddiad – yr wythnos cynt o ni’n pori drwy’r ffigrau mudo sydd ar wefan StatsWales (linc) ar gyfer gwaith mapio rhyngweithiol (linc). Tybiais bod digon o wybodaeth yno i drio ailgreu dadansoddiad y Telegraph – ac efallai dysgu ychydig mwy.
Y data perthnasol oedd:
- Data Poblogaeth Cymru (linc)
- Data Mudo rhwng Cymru/Lleogr (linc)
- Data Mudo rhwng Cymru/DU (linc)
- Data Mudo rhwng Cymru/Gweddill y byd (linc)
POBLOGAETH
Prif bwynt yr erthygl oedd bod mewnlifiad i mewn i’r wlad yn digwydd ar raddfa mor gyflym – bysa niferoedd y Cymry yn cael ei boddi. Y cwestiwn cyntaf felly oedd, be ‘di twf poblogaeth Cymru?
Mae’r graff isod yn dangos y newid mewn poblogaeth dros 10 mlynedd – o 2001-2011
Mae’r graff yn dangos cynydd poblogaeth cyson – er bod y twf blynyddol yn gall amrywio’n sylweddol.
CANLYNIAD = Ar gyfartaledd – mae poblogaeth Cymru yn cynyddu o tua 15,500 y flwyddyn.
Y cwestiwn nesaf oedd- faint sydd yn dôd i mewn i’r wlad pob blwyddyn?
MEWNFUDO
Mae’r graff isod yn dangos y niferoedd sydd yn mudo i Gymru o Lloegr, gweddill y DU ac o weddill y byd.
Yn amlwg, o Lloegr mae’r mwyafrif o fewnfudwyr, gyda nifer llai o weddill y DU. Er hyn, mae’r llif i mewn o Lloegr i weld yn arafu, gyda cynydd mewn mewfudwyr o weddill y bud.
Mae’r graff yma yn dangos cyfanswm y mewnlifiad dros y ddeg mlynedd
Y tueddiad yw bod y niferoedd sydd yn mewnlifo yn lleihau.
CANLYNIAD = Ar gyfartaledd – mae mewnlifiad i mewn i Gymru yn lleihau o rhyw 345 y flwyddyn.
Felly, gan bod y twf poblogaeth yn cynyddu yn raddol – a gan bod y twf mewnlifiad i weld yn lleihau yn raddol – fedrai’m gweld sut fedr y ddau groesi ei gilydd a creu sefyllfa ble mae mwy o fewnfudwyr na poblogaeth arferol.
CASGLIAD
Mae’r erthygl yn y Telegraph yn creu darlun tywyll o’r dyfodol yng Nghymru – gyda oblygiadau anferth i ddyfodol y iaith ayyb. Ond eto, yn ôl y data sydd ar StatsWales, efallai nad yw’r darlun ddim yn wirioneddol gywir. Wrth ddadansoddi’r data yno – mae’n ymddangos bod mewnlifiad i mewn i Gymru yn arafu – ac ar gyfartaledd, canran go fach yw mewnfudwyr o fewn y wlad.
Pa bynnag ffynhonnell sydd yn gywir – mae’r ffordd mae’r data yn cael ei ddadansoddi yr un môr bwysig.
Dafydd,
Dydw i ddim yn deall sut wyt ti wedi cael y ffigurau sy yn y siart pei olaf. Rwyf wedi ychwanegu tudalen Demograffeg i statiaith.com sy’n cynnwys siart sy’n darlunio’r sefyllfa: http://statiaith.com/blog/demograffeg/
Hywel
Helo Hywel, sut hwyl?
Dyw’r ffigyrau nes i ddefnyddio ddim gennyf wrth law ar hyn o bryd, ac am ryw reswm, dwy’r dolenni gwreiddiol i’r tudalennau StatsWales ddim yn gweithio dim mwy (Mae’n edrych yn debyg bod rhai o’r adrannau wedi cael eu hail trefnu).
Fodd bynnag – mi wnâi edrych os dwi dal hefo copi o’r daenlen ffigyrau nes i ddefnyddio’n wreiddiol.
O.N. Hoffi’r blog StatIaith yn fawr – llwyth o bethau diddorol yna. Adnodd pwysig iawn.
Hwyl am y tro
Dafydd
Helo Hywel
Dwi’n ymddiheuro mod i’n hir yn ymateb. Mae’n brysur iawn arna i ar hyn o bryd, a dwi byth wedi cael amser i ail-edrych ar y ffigyrau.
Yn y cyfamser, dwi wedi tynnu’r siart pei o’r blog. Dwi’m ishe camarwain neb, felly nai ddim ei adio’n ôl nes fy mod wedi cael cyfle i ail-redeg y dadansoddiad.
Hwyl
Dafydd