Lluniau

Orion o’r ardd gefn

Orïon

Orïon

 

Ar drwydd Lovejoy!

Os da chi ddigon ffodus i fyw mewn ardal heb lawer o oleuadau stryd, a gyda llygaid craff (neu binoculars) – ma’ na gyfle da i chi gael cip gomed Lovejoy, sydd wrthi’n trafeilio drwy gysawd yr haul.

Dwi wedi trio sawl gwaith i’w weld, ond heb lwyddiant – gyda chymylau, glaw oerni neu botel o win yn fy ngyrru i mewn. Es i allan eto neithiwr, er gwaetha’r rhew, ond methiant fu’r ymdrech. Er hyn, ges i’r llun uchod o Orïon. Mae’n gytser hawdd i’w adnabod oherwydd y tair seren sydd mewn llinell sydd yn ffurfio’r “belt”.

Am fwy o wybodaeth am Lovetjoy – a chanllawiau am ble i edrych i’w weld – cerwch yma CLIC

Gadewch mi wybod os gewch chi lwyddiant 🙂

Hwyl

Dafydd

 

Iechyd Meddwl Yng Nghymru

Mae heddiw, 10fed o Hydref, yn ddiwrnod Iechyd Meddwl 2014. I roi syniad o faint o bobl mae hyn yn ei effeithio yma yng Nghymru, mae’r map isod yn dangos y canran o farwolaethau sy’n deillio o broblemau iechyd meddwl. (data 2011 o wefan StatsCymru – linc).

 

% Marwolaethau Yn Sgil Problemau Iechyd Meddwl

% Marwolaethau Yn Sgil Problemau Iechyd Meddwl

Infograffeg – Refferendwm 1977 a 1997

O ni wedi meddwl blogio am ffigyrau refferendwm Cymry ac yr Alban draw yn 1977 a 1997 – ond yn anffodus, dwi’m wedi cael llawer o amser.

Yn y cyfamser, dwi wedi creu “inffograffeg” syml o’r prif ffigyrau ar y ddau achlysur.

Refferendwm 1977

Refferendwm 1977

 

Refferendwm 1997

Refferendwm 1997

 

Hwyl

Dafydd

Sir Hapusaf Cymru

Sir Hapusaf Cymru

Pob blwyddyn, mae’r llywodraeth yn cynnal arolwg cenedlaethol sy’n holi’r poblogath am nifer o agweddau gwahanol o fywyd yng Nghymru (linc). Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r canlyniadau yma wedyn i fonitro perfformiad y siroedd, ac i raglennu am y dyfodol.

Yn fras, mae’r unigolion sydd yn cymryd yr arolwg yn ateb y cwestiynau unai drwy roi marc allan o ddeg, neu weithiau canran.

Nes i feddwl mi fysa’n reit ddiddorol defnyddio’r atebion yma i drio canfod ble di’r lle hapusaf i fyw yng Nghymru.

Gwir Siâp Cymru

Mapio Data

Mae pawb yn gyfarwydd a defnyddio lliwiau ar fapiau i ddangos a dehongli gwybodaeth – mapiau Cloropleth. Ar y mapiau yma, mae ardaloedd megis gwlad, sir ne’ ward wedi eu lliwio yn ol rhyw ffigwr cysylltiedig e.e. poblogaeth.

Ffordd gwhanol iawn o ddangos yr un data yw drwy fapiau Cartogram. Yma, yn ogystal a lliwiau, mae’r daearyddiaeth ei hun yn cael ei newid a’i ddylanwadu gan y ffigyrau. Os yw’r ffigyrau yn uchel – bydd y siâp yn cael ei chwyddo, ac os yw’r ffigyrau yn llai, bydd y siâp yn cael ei leihau. Drwy gydol y broses, mae’r ffiniau yn cael eu cadw yn gyflawn (contiguous polygons) Mae’r canlyniadau yn gallu bod yn drawiadol iawn.