Sir Hapusaf Cymru

Sir Hapusaf Cymru

Pob blwyddyn, mae’r llywodraeth yn cynnal arolwg cenedlaethol sy’n holi’r poblogath am nifer o agweddau gwahanol o fywyd yng Nghymru (linc). Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r canlyniadau yma wedyn i fonitro perfformiad y siroedd, ac i raglennu am y dyfodol.

Yn fras, mae’r unigolion sydd yn cymryd yr arolwg yn ateb y cwestiynau unai drwy roi marc allan o ddeg, neu weithiau canran.

Nes i feddwl mi fysa’n reit ddiddorol defnyddio’r atebion yma i drio canfod ble di’r lle hapusaf i fyw yng Nghymru.

Fel dwi wedi sôn- mae’r arolwg yn eang iawn, ond, ar gyfer y dadansoddiad yma, nes i ddewis defnyddio’r tablau canlynol:

  • Boddhad Gyda Bywyd yn Gyffredinol – (tabl 35)
  • Hapus Gyda’ch Sefyllfa Ariannol – (tabl 36)
  • Hapus Gyda’ch Cartref – (tabl 37)
  • Hapus Gyda’ch Gwaith – (tabl 38)
  • Digon o Amser Hamdden – (tabl 40)
  • Hapus Gyda’r Amgylchedd – (tabl 42)
  • Bywyd Gwerth Ei Fyw – (tabl 43)
  • Ddim yn Teimlo’n Drist – (tabl 45)
  • Teimlo Mewn Hedd – (tabl 46)
  • Ddim yn Teimlo’n Isel – (tabl 47)
  • Teimlo’n Hapus – (tabl 48)

Canlyniadau’r Arolwg

Mae’r graffiau isod yn dangos perfformiad pob sir ymhob cwestiwn (rhyw fath o “league table” canlyniadau).

Dadansoddi’r Canlyniadau

I drio canfod y sir hapusaf, rhaid casglu’r wybodaeth yma i gyd at ei gilydd. Nes i ddefnyddio’r un fath o dechneg a ddefnyddiais yn y blog Eisteddfod (linc).

Gan fod pawb yn ateb y cwestiwn gyda marc allan o ddeg – yr unig beth oedd angen i mi wneud oedd adio’r ffigyrau yma i fynu ar draws pob cwestiwn i gyrraedd y cyfanswm.

I wneud pethe’n haws, nes i gyfieithu’r pwyntiau terfynol yma wedyn i be dwi’n alw yn “Canran Hapusrwydd” pob sir!!

Dyma’r canlyniad terfynol.

Felly llongyfarchiadau i Sir Benfro – Sir Hapusaf Cymru!

Dyma’r un canlyniad mewn map.

Canran Hapusrwydd

Canran Hapusrwydd

Cliciwch yma am fersiwn rhyngweithiol:

Map Hapusrwydd

Map Hapusrwydd

Wrth edrych yn fras ar y canlyniadau – mae’n ymddangos, bod Cymru wlad hapus ar y cyfan. Y sgôr isaf yw 68.9% gan Merthyr Tudful druan – sydd ddim yn rhu ddrwg, yn enwedig wrth feddwl fod y sir “Hapusaf” – Sir Benfro, ond yn sgorio ychydig llai na 10% yn fwy, gyda 78.2%.

Yn arwynebol hefyd, mae siroedd y De i weld yn ychydig llai bodlon ar eu bywyd, gyda mwy o’r lliwiau tywll yn ymddangos yno.

Beth Sy’n Creu Hapusrwydd?

I fynd gam ymhellach – nes i edrych os oedd unrhyw batrwm i weld rhwng y siroedd hapus, (a trist). Roedd gen i ddata wrthlaw o wefan StatsWales am y Poblogaeth, Niferoedd yn Siared Cymraeg, Cyflogau Blynyddol a Nifer Diwaith.

Eto – i wneud pethe’n haws, nes i rannu’r canlyniadau i fynu i bedwar quartile, neu chwarter (linc) – wedyn dim ond pedwar elfen sydd angen ei ddadansoddi ymhob siart.

Dyma’r canlyniadau:

Mae’r siart yn dangos bod poblogaeth lai yn tueddu i greu pobl hapusach. Efallai bod hyn yn golygu bod pobl sydd yn byw yn y wlad yn hapusach na’r rhai mewn trefi?

Yn ôl y siart yma – mae’r Cymry Cymraeg yn dipyn hapusach na rhai di-gymraeg. Rheswm gwych arall i bobl ddysgu’r iaith!

Yn syfrdanol – dyw maint cyflog ddim i weld yn cael effaith mawr ar hapusrwydd pobl (eto, dwi’n siŵr bod ennill y loteri ddim yn beth drwg chwaith!)

Yn olaf – ac yn fwy difrifol efallai – mae’n ymddangos bod ardaloedd gyda diweithdra uwch yn dipyn mwy “trist”. Fydd hyn ddim yn syndod i neb – nid yn unig mae diweithdra yn creu straen ariannol mawr ar bobl, ond mae hefyd yn gwneud pobl deimlo’n ddiwerth ac isel.

Dyma’r chwarteri gwahanol wedi ei mapio.

Map Chwarteri

Map Chwarteri

 

Felly – be da chi’n feddwl? Cytuno? Anghytuno? Gadewch ‘mi wybod.

Hwyl

Dafydd

 

 

 

Gadael Ymateb