Be sy’n creu Eisteddfod Llwyddiannus?

Yn y post olaf ar y blog yma, mi wnes i fapio holl leoliadau’r Eisteddfod Genedlaethol, a dadansoddi ychydig o ffeithiau. (linc)

Ar ôl ei gyhoeddi, ges i sylw diddorol arno gan Ifan Morgan (linc), yn holi os oedd modd defnyddio’r data i ddarganfod y lle mwyaf delfrydol i gynnal Eisteddfod.

Mi benderfynais dderbyn yr her, a gan ddefnyddio’r ffigyrau am y nifer o ymwelwyr o flog Ifan (linc) a’r data sydd ar gael o wefan StatsWales ac ONS– es i ati i weld pa ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar lwyddiant Eisteddfod – a gobeithio darganfod y lle perffaith i gynnal y sioe yn y dyfodol

Dadansoddi’r Data

Cyn cychwyn – rhaid i mi bwysleisio mai dim ond mesur llwyddiant Eisteddfod drwy’r niferoedd sydd wedi mynychu ydw’i yma – a di’r ffigyrau yma ddim yn angenrheidiol adlewyrchu pa mor “dda” oedd yr Eisteddfod ei hun. Mae’r ŵyl eleni yn esiampl dda – nifer isel o ymwelwyr, ond mae pawb dwi wedi holi wedi cael amser grêt, gyda nifer yn ei grybwyll fel y ‘steddfod orau!

Ar gyfer y dadansoddiad, y syniad oedd creu byffer 5 milltir o amgylch pob safle ac wedyn gweld sut fath o ardaloedd oedd yn disgyn o fewn i’r trothwy yma. Y gobaith oedd gweld beth oedd yn gyffredin rhwng yr Eisteddfodau gorau.

Yn amlwg, fydd dadansoddiad fel hyn byth yn 100% cywir – mae ‘na gymaint o ffactorau sy’n gallu effeithio ar lwyddiant Eisteddfod e.e. tywydd, pellter, pris tocyn ayyb. Mae’r ffactorau yma’n rhai anodd eu cyfrifo, felly mi wnes i edrych ar bethau ble mae yna ffigyrau mwy cadarn ar gael.

Yr elfennau nes i edrych ar oedd.
1. Poblogaeth o fewn yr ardaloedd (linc)
2. Canran sy’n siarad Cymraeg ymhob ardal (linc)
3. Cyflog o fewn yr ardal (linc)

Nodyn bach arall – Dwi wedi defnyddio’r data mwyaf cyfredol ar gyfer y dadansoddiad. Wrth gwrs, di hyn ddim yn hollol gywir (ddylwn i wedi defnyddio’r ffigyrau gwahanol ar gyfer pob blwyddyn), ond dim ond rhywbeth arwynebol yw hwn i roi rhyw syniad o beth sy’n mynd ymlaen

Nifer Ymwelwyr

Mae’r graff isod wedi ei selio ar ddata Ifan, ac yn dangos y nifer ymwlewyr i pob Eisteddfod ers 1995.

Mae’r niferoedd yn disgyn yn raddol – gostyniad o ryw 1250 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Yr Eisteddfod mwyaf llwyddiannus oedd yn Y Bala, 1997 – gyda 173,221 wedi ymweld.

Yr Eisteddfod lleiaf, oedd Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002 – gyda dim ond 126,751 yn ymweld.

Ardaloedd Yr Eisteddfod

Mae’r graffiau isod yn dangos yr ystadegau gwahanol ar gyfer pob ardal. Dwi wedi trefnu’r bariau yn nhrefn nifer ymwelwyr i’r Eisteddfod (y mwyaf llwyddiannus yn y top – lleiaf yn y gwaelod) i’w wneud yn haws i weld beth sy’n gyffredin rhwng y goreuon.

Nifer Cymraeg

Poblogaeth

Cyflog

Canlyniadau

Gan fod y graffiau uchod yn cymharu data ar gyfer ugain Eisteddfod – mae’n anodd gweld patrwm pendant. I wneud pethau’n haws – mi wnes i grynhoi’r data i lawr i bedwar grŵp, gyda Grŵp 1 yn cynrychioli’r 5 ‘steddfod fwyaf llwyddiannus, i lawr i Grŵp 4 yn cynrychioli’r 5 Eisteddfod leiaf llwyddiannus.

Mae’r graffiau isod yn dangos y data ar gyfer y grwpiau.

 

Safle Gorau I Gynal Eisteddfod

Ar gyfartaledd ers 1995, mae’r Eisteddfod yn cael 153,964 o ymwelwyr. Os wnawn ni gysidro bod pob eisteddfod sydd wedi cael mwy na hyn o ymwelwyr wedi bod yn llwyddiant – y cyfartaledd o ganran sy’n siarad Cymraeg da ni ei angen yw 37.3%

Mae’r map isod yn dangos y wardiau sydd yn cyrraedd y ffigwr yma neu uwch.

Wardiau Cymraeg

Wardiau Cymraeg

Mae hwn yn dalp go fawr o Gymru – ac i’w leihau yn bellach, mi wnes i ddefnyddio’r data “not spots” o’r blog cynt (linc). Mi wnes i weld pa ardal sydd erioed wedi cynnal Eisteddfod, sydd yn gynwysedig yn y map ward uchod. Dyma’r canlyniad.

Wardiau Cymraeg Heb Eisteddfod

Wardiau Cymraeg Heb Eisteddfod

Mae’r 17 ward yma yn ardaloedd ble mae mwy na 37.3% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac sydd erioed wedi cynnal Eisteddfod. Y rhestr llawn yw:

Aberdaron – (74.2% Yn Siared Cymraeg)
Tregaron – (66.9%)
Porth Amlwch – (64.5%)
Tref Llandysul – (63.5%)
Aberaeron – (59.9%)
Llandyfriog – (54.7%)
Llangeler – (54.5%)
Amlwch Wledig – (54.3%)
Llanbadrig – (52.4%)
Llansanffraid – (51.6%)
Troedyraur – (50.9%)
Llandysiliogogo – (50.8%)
Llanboidy – (48.7%)
Maenclochog – (47.9%)
Hendy-Gwyn ar Daf – (42.4%)
Ceinewydd – (41.5%)
Llanymddyfri – (40.3%)

Os daw ‘steddfod fyth i’r ardaloedd yma – fydd hi’n ddiddorol gweld os bydd yr ymwelwyr yn heidio yna – ond cofiwch – os di neb yn troi fynu – DIM BAI FI YDIO! 🙂

Hwyl

Dafydd

2 Comments

  1. Rhys · Awst 18, 2014

    Gwych, dwi wrth fy modd gyda’r cofnodion i gyd a y blog ‘ma, ond hwn ydy’r gorau hyd yma i mi!