Mapio Lliwiau Ysgolion Uwchradd Cymru

Mapio Lliwiau’r Ysgolion

Mae’r llywodraeth newydd gyhoeddi canlyniadau system graddio ysgolion Cymru. (manylion yma http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35428451) Mae pob ysgol yn cael un o’r lliwiau canlynol:

Gwyrdd = Gwych

Melyn = Da

Oren = Angen Gwella, angen cefnogaeth fyrdymor

Coch = Angen cefnogaeth sylweddol

Yn y blog sydyn yma, es i ati i fapio’r canlyniadau yma i drio gweld os oedd unrhyw batrwm yn ymddangos.

Y Data

Ges i ddata’r canlyniadau o wefan y BBC (linc uchod). Ar gyfer y mapio, ges i gyfeiriad a chod post pob ysgol o wefan y llywodraeth (linc). Roedd posib wedyn cyfuno’r data cod post yma gyda’r ffeiluau OS opendata CodePoint (linc) i greu’r haen.

Y Mapiau – Ysgolion

Gan fod cymaint o ysgolion yn agos i’w gilydd, mae’r mapiau yn gallu edrych reit “brysur”, felly dwi wedi creu fersiwn rhyngweithiol i’w wneud yn haws i bori drwy’r data – dilynwch y linc yma (linc)

 

Mae’r map isod yn dangos yr holl ysgolion uwchradd yn ôl eu lliw.

Map Cymru

I neud pethe’n haws i’w dadansoddi, dyma’r lliwiau ar fapiau unigol

Lliwiau

Mae’r lliwiau wedi eu gwasgaru yn eithaf teg dros y wlad, heblaw am y gwyrdd, cyda dosbarthiad sylweddol lawr yn y de. Ydi hynna oherwydd bod ysgolion y de yn well na’r rhai yn y Gogledd – ta di’r ffaith bod cymaint o ysgolion o fewn yr ardaloedd yna yn ein twyllo?

Y Mapiau – Siroedd

I drio cael rhyw ddarlun pellach, mi edrychais ar y data ar lefel sirol. Mae’r map isod yn dangos y lliw pennaf ymhob sir.

02 - Map Siroedd

Mae Môn yn seicadelic iawn hefo’r un faint o ysgolion melyn ac oren! Yn wir, melyn ac oren yw’r prif liwiau yma, ond eto, gydag ynysoedd o wyrdd eto yn y de. Does dim un sir yng Nghymru gyda mwyafrif o ysgolion yn goch.

Yn olaf – dwi wedi creu’r siart isod sydd yn dangos canrannau pob lliw ymhob sir – ac yng Nghymru.

03 - Pies

Y sir hefo’r canran uchaf o goch yw Blaenau Gwent gyda 33.3% (Wrecsam yn ail gyda 30%)

Y sir hefo’r canran uchaf o ysgolion gwyrdd yw Abertawe, gyda 57% yn wyrdd (Bro Morgannwg yn ail gyda 38%)

Mae’n hawdd gweld y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng siroedd fel hyn e.e. Conwy a Gwynedd yn eithaf tebyg. Chware teg hefyd i Sir Fynwy am ail-greu PacMan yn berffaith gyda’u lliwiau (dylse na fod gwobr ychwanegol am hyna!).

Wel – be da chi’n ei feddwl. Ydi’r system lliwiau yma’n dda i unrhyw beth? Ydi rhieni yn mynd i ddefnyddio’r lliwiau wrth benderfynu lle i yrru eu plant? Ydi’r de yn well na’r gogledd (no wê!) A fydd na BacMan arall ymhlith y siartiau y tro nesaf – un gwyrdd efallai!

 

Hwyl am y tro 🙂