Mapio Uchder Adeiladau Caerdydd

Mapio Uchder Adeiladau Caerdydd

Uchder Adeiladau

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn gweld lot o fapiau ar y we yn dangos uchder adeiladu yn rhai o drefi a dinasoedd mwya’r byd – fel y rhain yn dangos rhai o Loegr yn y Guardian – Linc

Gan nad oedd neb i weld wedi creu un o Gymru eto – mi es i ati i greu un sydyn o Gaerdydd.

Data

Dyw creu mapiau fel hyn ddim yn anodd (mae  ‘na ganllawiau gwych yma – linc)

Y broblem fel arfer yw cael gafael ar y data craidd, sef yn yr achos yma, data DSM, DTM ac ôl troed yr adeiladau. Yn ffodus, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddata agored, mae’n bosib lawr lwytho popeth sydd ei angen ar gyfer y dadansoddiad yn rhad ac am ddim.

Mae’r data DTM a DSM ar gael gan Gyfoeth Naturiol Cymru (linc) a mae’r data ôl troed ar gael fel rhan o ddata OpenData Ordnance Survey (linc).

Y Map

Dyma’r map terfynnol:

Caerdydd

Caerdydd

Am fersiwn mwy – lawrlwythwch y fersiwn PDF yma: Caerdydd

Be da chi’n feddwl? Lle arall yng Nghymru sa’n edrych yn dda mewn map o’r fath?

Diweddariad

Dwi wedi defnyddio’r un data i greu y map yma – cysgodion Caerdydd

Cysgod_Caerdydd

 

Hwyl

 

Dafydd