Cymraeg

Prisiau Tai Cymru – Rhan 2

Prisiau Tai Cymru – Rhan 2

Yn y post olaf ar y blog (Linc Rhan 1) fues i’n defnyddio data’r gofrestrfa tir i edrych ar y farchnad tai yng Nghymru dros y cyfnod 2007 i 2014. Erbyn hyn, dwi wedi cael mwy o amser i ddadansoddi’r data i lawr i lefel ward, a drwy ddefnyddio data cyflogau, trio darganfod ble mae’r ardaloedd fwyaf fforddiadwy ac anfforddiadwy yng Nghymru. 

Prisiau Tai Cymru

Prisiau Tai Cymru

Yn ôl y newyddion, mae prisiau tai yn prysur gynyddu, a’r farchnad yn tyfu i’r un lefel a welwyd yn ystod y “boom” mawr yn 2007 (Linc1) (Linc2).

Wrth gwrs, dyw’r farchnad tai yng Nghymru ddim yn dilyn yr un tuedd a’r farchnad yn Lloegr (ac yn bendant ddim fel Llundain). Fel rheol, mae’n cymryd amser i unrhyw gynnydd dreiglo drwodd i’r farchnad yma.
I gael gwell syniad o beth sydd yn mynd ymlaen yma, es i wefan y Gofrestrfa Tir (Land Registry) a lawrlwytho’r data gwerthiant tai o 2007 hyd heddiw. Dwi wedi dadansoddi’r data isod.

Calon/Canol Cymru

Slogan hysbysebion newydd S4C yw “Calon Cenedl”. Mae’n awgrymu bod S4C yn ganolbwynt i’r wlad. Dwn’im faint o wir sydd na i’r datganiad yna – ond o ran daearyddiaeth, lle mae calon Cymru?

Gwir Siâp Cymru

Mapio Data

Mae pawb yn gyfarwydd a defnyddio lliwiau ar fapiau i ddangos a dehongli gwybodaeth – mapiau Cloropleth. Ar y mapiau yma, mae ardaloedd megis gwlad, sir ne’ ward wedi eu lliwio yn ol rhyw ffigwr cysylltiedig e.e. poblogaeth.

Ffordd gwhanol iawn o ddangos yr un data yw drwy fapiau Cartogram. Yma, yn ogystal a lliwiau, mae’r daearyddiaeth ei hun yn cael ei newid a’i ddylanwadu gan y ffigyrau. Os yw’r ffigyrau yn uchel – bydd y siâp yn cael ei chwyddo, ac os yw’r ffigyrau yn llai, bydd y siâp yn cael ei leihau. Drwy gydol y broses, mae’r ffiniau yn cael eu cadw yn gyflawn (contiguous polygons) Mae’r canlyniadau yn gallu bod yn drawiadol iawn.

Adolygu Ffigyrau’r Telegraph

Ddoe (5/6/14) ymddangosodd erthygl yn y Telegraph (linc), gyda pennawd brawychus yn rhybuddio y gall y Cymry fod yn leiafrif yn eu gwlad ei hunain.

“Welsh could become a minority in Wales as English set sights west”

Nawr – swn i byth yn trio dweud y bysa papur newydd yn printio pennawdau trawiadol fel hyn jyst i werthu mwy o gopiau – ond o ni’n awyddus i gael gweld y dystiolaeth i fi fy hun. Yn anffodus – dyw’r erthygl ddim yn rhoi cyswllt i’r data craidd (dim ond crybwyll na’r ONS oedd wedi ei gyhoeddi) – na chwaith rhoi manylion ar bwy sydd wedi bod yn edrych drwy’r data. Mae’n amhosib felly cael pori’r drwy’r ffigyrau i gadarnhau ac studio ei canlyniad.

Blogio Cymraeg

Wel, ma’r blog ‘ma i fynu o’r diwedd.

Do ni’m di meddwl cynnwys un i gychwyn – dim ond rhywle i gadw ‘chydig o waith oedd y wefan yma i fod – ond gobeithio fydd y blog yn ddefnyddiol i gadw nodiadau a ballu.

Un peth nes i sylweddoli wrth baratoi y safle oedd bod y canllawiau sydd ar gael ar gyfer creu blog iaith Gymraeg ‘chydig yn ddryslyd.

Yn fras – mae’r pecyn iaith sydd ar y dudalen swyddogol WordPress Cymraeg (linc) yn cynwys pob ffeil sydd angen ar gyfer creu blog Cymraeg o’r newydd. Ond – i gyfiaethu blog sydd yn bodoli yn barod – dim ond y  ffeiliau sydd o fewn “wordpress\wp-content\languages” sydd angen eu cadw, a’i copio i’r serfer.

Pwynt arall aneglur oedd sut i newid y ffeil wp-config.php i gadarnhau’r newid iaith. Yn ôl y dudalen swyddogol (linc) – mae rhaid cynwys côd gwlad cywir i pob cofnod e.e.

define ('WPLANG', 'cy_GB');

Ond, am rhyw reswm – ar gyfer y pecyn Cymraeg – dim ond hyn sydd angen:

define ('WPLANG', 'cy');

Petha bach – ond ella sa’n gallu bod o fydd i rhywun rhywdro.

6 of 6
123456