Prisiau Tai Cymru

Prisiau Tai Cymru

Yn ôl y newyddion, mae prisiau tai yn prysur gynyddu, a’r farchnad yn tyfu i’r un lefel a welwyd yn ystod y “boom” mawr yn 2007 (Linc1) (Linc2).

Wrth gwrs, dyw’r farchnad tai yng Nghymru ddim yn dilyn yr un tuedd a’r farchnad yn Lloegr (ac yn bendant ddim fel Llundain). Fel rheol, mae’n cymryd amser i unrhyw gynnydd dreiglo drwodd i’r farchnad yma.
I gael gwell syniad o beth sydd yn mynd ymlaen yma, es i wefan y Gofrestrfa Tir (Land Registry) a lawrlwytho’r data gwerthiant tai o 2007 hyd heddiw. Dwi wedi dadansoddi’r data isod.

Prisiau Tai Heddiw

I weld y siartiau perthnasol – cliciwch YMA i fynd i dudalen gyda siartiau rhyngweithiol.

Mae’r data craidd o’r Gofrestrfa Tir yn rhestru pob gwerthiant eiddo yn ôl i 1995. Drwy ddefnyddio’r cod post, mae bosib lleoli’r tai wedyn yn ddaearyddol. Yma, dwi wedi edrych ar lefel sirol (haws!) ond mae modd gwneud yr un fath o ddadansoddiad ar lefel ward, LSOA ayyb

Siartiau Prisia Tai

Siartiau Prisia Tai

I gychwyn – yn ôl y data, ar gyfartaledd, mae tŷ yng Nghymru heddiw yn costio £149,561.
Yn ôl yn 2007, y pris ar gyfartaledd oedd £159,995 – gwahaniaeth o ryw -7%.

Mae’r graff isod yn dangos y pris ar gyfartaledd yn 2007 a 2014. (sori dy nhw ddim yn rhyngweithiol – dyw’r plugin o ni’n defnyddio ddim yn gweithio!)

Gwerth Tai Cymru 2007-14

Gwerth Tai Cymru 2007-14

Mae’r mapiau isod yn dangos y gwahaniaethau rhwng y siroedd ar y cyfnodau gwahanol.

Cymharu Prisiau

Cymharu Prisiau

Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sydd ar ei hôl hi fwyaf, gyda’r pris ond yn cyfateb i -15% a -14% o’r pris 2007.

Yr unig siroedd sydd yn dangos cynydd yw Bro Morgannwg (cynnydd o 12%) a Chaerdydd (cynnydd o 2%).

A fydd y siroedd eraill yn dilyn esiampl Bro Morgannwg a phrofi tyfiant pell dros uchafbwynt 2007?

I drio gweld beth yw’r tuedd, es i ati i gymharu prisiau 2013 a phrisiau 2014 (hyn yn hyn) i weld y newid dros flwyddyn. Mae’r siart isod yn dangos % y gwahaniaeth mewn prisiau ar gyfartaledd rhwng 2014 a 2013.

 

% Newid Rhwng 2013-2014

% Newid Rhwng 2013-2014

 

Ar gyfartaledd – colled o 0.6% yw’r tueddiad ar draws Cymru – gyda Phrisiau Rhondda Cynon Taf i lawr 4.3% i brisiau 2013. Mae’n werth cofio na dim ond ffigyrau hyd at ddiwedd Mehefin sydd wedi cael eu cysidro – ond fydd pethe’n gwella digon drwy weddill y flwyddyn i godi’r ffigyrau? Ar ddiwedd y flwyddyn (os gofiai!) mi wnâi ail edrych ar y ffigyrau i weld be ddigwyddodd.

 

 Niferoedd Tai Wedi Gwerthu

Mae’r graff isod yn dangos y nifer o dai a gafodd eu gwerthu yn 2007 a 2013.

Nifer Tai a Werthwyd 2007-13

Nifer Tai a Werthwyd 2007-13

Er bod y prisiau mewn rhai mannau yn brysur agosau lefel 2007 – dyw’r niferoedd sydd yn gwerthu ddim. Ar y cyfan, mae’r lefel gwerthu ond wedi cyrraedd 64% o’r lefelau 2007 – gyda sir Fynwy (78%) ar y brig – a Wrecsam (50%) ar waelod y rhestr.

Mae’r mapiau isod eto’n cymharu’r ddau gyfnod.

Cymharu Nifer

Cymharu Nifer

Mae’n awgrymu, er bod tai yn gwerthu am brisiau gweddol, bod y farchnad llawer llai bywiog a’r brig yn 2007. Efallai bod ddim gymaint o dai ar werth, neu, nid yw’r tai sydd ar y farchnad yn gwerthu mor gyflym.

DWI AM DRIO PORI DRWY’R DATA YN DDYFNACH I WELD BE DDOI ARDRAWS – A MI ROI RHYWBETH I FYNY WEDYN. OS DA CHI EISIAU GWELD UNRHYW DDADANSODDIAD PENODOL – GADEWCH MI WYBOD.

FYDD HI’N DDIDDOROL GWELD BETH FYDD Y FFIGYRAU AR DDIWEDD Y FLWYDDYN. FYDD Y PRISIAU/NIFEROEDD YN CYNYDDU, GAN ADLEWYRCHU RHAI ARDALOEDD YN LLOEGR. NEU BYDD Y FARCHNAD YN ARAFU AC YN LEFELU ALLAN?

DIWEDDARIAD: – Wedi edrych eto ar y data yma (Linc)

1 Comment

  1. James Dowden · Gorffennaf 18, 2014

    Ac wrth gwrs bydd gwir fesur y colled yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gelu gan yr ardaloedd fu hyd 1974 yn nosbarthau gwledig Llantrisant a Llanilltud a’r Bont-Faen.