Mapio Lliwiau Ysgolion Cynradd Cymru

Mapio Lliwiau Ysgolion Cynradd

Sbel yn ôl, mi wnes i fapio canlyniadau system graddio’r llywodraeth ar gyfer Ysgolion Uwchradd (linc). Yn y blogiad bach yma, dwi wedi mapio’r ysgolion cynradd. Mae’r system lliwiau’r un peth, gyda –

Gwyrdd = Gwych

Melyn = Da

Oren = Angen Gwella, angen cefnogaeth fyrdymor

Coch = Angen cefnogaeth sylweddol

Mae’r data canlyniadau o wefan y BBC (linc). Ar gyfer y mapio, ges i gyfeiriad a chod post pob ysgol o wefan y llywodraeth (linc). Roedd posib wedyn cyfuno’r data cod post yma gyda’r ffeiliau OS opendata CodePoint (linc) i greu’r haen.

Mapiau Ysgolion

Gan fod cymaint mwy o ysgolion cynradd yn y wlad, mae’n haes gweld y canlyniadau ar y map rhyngweithiol isod – cliciwch ar y llun i’w agor.

Map Ysgolion Cynradd

Dyma’r lliwiau ar wahan:

Lliwiau Sir

Mae’r lliwiau i weld wedi cael ei dosbarthu’n weddol ar draws y wlad, ond mae ychydig mwy o goch i weld yn y de. O ran ffigyrau, y sir gyda’r canran fwyaf o ysgolion coch yw Merthyr, gyda 9% (er, dim ond 2 ysgol yw hynny!), gyda Blaenau Gwent (8%) a Castell-Nedd Port Talbot (7%) wedyn.

Data Sirol

Y sir gyda’r canrannau uchaf o ysgolion gwyrdd yw Casnewydd, gyda 51%, gyda Phen-y-bont ar Ogwr (42%) ac Abertawe (44%) wedyn. O’r blog cynt, gwelwn fod Abertawe ar y brig o siroedd gydag Ysgolion uwchradd Gwyrdd hefyd.

Ar lefel siroedd – melyn yw’r lliw mwyaf cyffredin ymhob sir heblaw am Gasnewydd, sydd yn ynys o wyrddni lawr yn y de!

lliwiau sir

 

Hwyl am y tro

Dafydd